26/09/2022
Ar ôl tair blynedd a hanner o waith ymchwilio a datblygu cynnyrch, mae prosiect Dewis Gwyllt yn dod i ben ym mis Medi '22. Hoffai'r Tîm DG fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu holl waith caled a'u brwdfrydedd. Rydym yn falch o fod wedi sefydlu hwb prosesu surop bedwen yn Llais y Goedwig, a fydd yn parhau i gefnogi tapwyr dros y 12 mis nesaf. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]
Mae Dewis Gwyllt hefyd yn falch o fod wedi helpu i hau hadau'r rhwydwaith CommuniTree a fydd yn parhau gydag ystod o weithdai a digwyddiadau dros y 12 mis nesaf, gyda chefnogaeth Coed Cadw a Loteri Cod Post y Bobl. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]
Bydd gwefan Dewis Gwyllt, sy'n cynnwys llu o adnoddau a ffilmiau cyfarwyddiadol, yn parhau i fod ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynaeafu cynnyrch coetir yn fasnachol mewn modd cynaliadwy: www.dewisgwyllt.co.uk
Rydym hefyd yn falch o fod wedi chwarae rôl allweddol wrth sefydlu prosiect (Goods from the Woods) gyda'r nod o ddatblygu llwyfan farchnata ddigidol ar gyfer yr holl gynnyrch a gwasanaethau arbennig mae coetiroedd yn eu cynhyrchu. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]
Bydd Dewis Gwyllt yn arddangos adnoddau, am y tro olaf, yn Ymgynulliad Llais y Goedwig 2022, lle byddwn hefyd yn parhau â'r sgwrs ynghylch cynaeafu hadau coed. Gobeithiwn eich gweld chi yno.
Dymuniadau gorau,
Tîm Dewis Gwyllt
DEVELOPING SUPPLY CHAINS FOR WILD WOODLANDPRODUCTS WILD WOODLANDPRODUCTS Dewis Gwyllt is a joint initiative between Llais y Goedwig and Wild Resources Ltd, exploring and researching opportunities for income generation from wild, forest products to support community woodland groups in Wales. Find out...